Rhaglen Datblygu Actifyddion Merched
Manylion y digwyddiad
Dyddiad
Thu, 18 Jul 2024 - 12:30 to 13:30
Cost
Am
Trosolwg

 Hoffech chi gymryd mwy o ran yn eich undeb? Ymunwch â'n cwrs sydd â'r nod o feithrin hyder, deall strwythurau undeb a thyfu eich pŵer yn ein mudiad.

Cofrestrwch heddiw ar gyfer ein sesiwn wybodaeth ar-lein ar 18 Gorffennaf am 12:30 i gael gwybod mwy.

Bydd y cwrs hwn yn cynnwys:
➔ Ystod o gyfleoedd hyfforddi, gan gynnwys cyrsiau ar-lein, cwrs preswyl a chyfleoedd wyneb yn wyneb. Bydd hyn yn rhoi cyfle i chi ddod i adnabod actifyddion eraill ac adeiladu undod
➔ Hyfforddiant personol wedi'i anelu at oresgyn y rhwystrau a wynebwch o fewn mudiad yr undebau llafur
➔ Gwell dealltwriaeth o’r mudiad undebau llafur a sut y gallwch chi symud ymlaen o’i fewn

Felly meddyliwch am ymuno â'r cwrs hwn ac adeiladu eich sgiliau. Rydym yn gobeithio am geisiadau gan fenywod mewn ystod o sectorau a chroesawn yn arbennig ceisiadau gan fenywod Du a Lleiafrifoedd Ethnig a'r rhai sy'n ystyried eu hunain i fod yn Anabl.

 
Lleoliad
Rhaglen Datblygu Actifyddion Merched

United Kingdom

Hygyrchedd

Rydym am i bawb sy'n mynychu digwyddiadau TUC gael profiad diogel a phleserus. Os oes angen unrhyw addasiadau neu gymorth arnoch i gymryd rhan yn y digwyddiad hwn, rhowch wybod i ni.