Beth yw addysg undebau llafur?
Mae Addysg TUC Cymru yn hyfforddi cynrychiolwyr undebau i weithio gydag aelodau a swyddogion undebau i wneud gwahaniaeth yn eu gweithle.
Ar gyfer pwy mae hyn?
Rydym yn cynnig cyrsiau i bob cynrychiolydd undeb. P’un a ydych chi’n gynrychiolydd y gweithle, stiward llawr gwaith, cynrychiolydd iechyd a diogelwch, cynrychiolydd dysgu undeb, cynrychiolydd gwyrdd/amgylcheddol, cynrychiolydd cydraddoldeb, neu unrhyw fath arall o gynrychiolydd, mae hyfforddiant ar gael a fydd yn rhoi’r sgiliau sydd eu hangen arnoch i fod yn gynrychiolydd effeithiol yn y gweithle.
Os ydych chi’n ystyried dod yn gynrychiolydd newydd, neu os ydych chi’n gynrychiolydd profiadol sy’n awyddus i ddiweddaru eich gwybodaeth, mae gennym gwrs ar eich cyfer chi.
Yn 2024, rydym yn cynnig rhaglenni datblygu arbenigol sydd wedi’u hanelu at grwpiau sy’n cael eu tangynrychioli yn y mudiad ar hyn o bryd. Mae’r rhain yn cynnwys rhaglenni datblygu arbenigol ar gyfer ymgyrchwyr sy’n fenywod, ymgyrchwyr du ac ymgyrchwyr ifanc. Nod y rhaglenni hyn yw cefnogi aelodau i fod yn gynrychiolwyr mwy gweithredol.
Amser o'r gwaith ar gyfer hyfforddiant
Mae gan gynrychiolwyr undebau hawl i gael amser rhesymol i ffwrdd o’r gwaith gyda thâl i gyflawni dyletswyddau undeb ac i gwblhau hyfforddiant. Mae ganddynt hefyd yr hawl i gael amser rhesymol o'r gwaith heb dâl i gymryd rhan mewn gweithgareddau undeb. Mae rheoliadau ar wahân ar gyfer cynrychiolwyr iechyd a diogelwch, cynrychiolwyr y gweithle a chynrychiolwyr Dysgu Undebau. Mae rhagor o wybodaeth am hawliau i gael amser i ffwrdd o’r gwaith ar gyfer hyfforddiant ar gael yma.
Cyrsiau
Mae’r cyrsiau’n cael eu cynnal mewn partneriaeth â’n canolfannau astudiaethau undebau llafur yn Dysgu Oedolion Cymru a Choleg Gwent. Mae’r cynrychiolwyr sy’n cymryd rhan yn y cyrsiau yn dod o amrywiaeth eang o ddiwydiannau ac undebau.
Hyfforddiant wedi’i achredu
Mae ein cyrsiau wedi’u hachredu, ac yn rhoi’r cyfle i gynrychiolwyr gael cymwysterau sy’n cael eu cydnabod yn genedlaethol drwy’r Fframwaith Credydau a Chymwysterau.
Tiwtoriaid proffesiynol
Mae pawb yn gwybod pa mor bwysig yw athro da. Mae ein cyrsiau yn cael eu cynnal gan diwtoriaid proffesiynol sy’n gynrychiolwyr undebau llafur profiadol. Maen nhw’n cael hyfforddiant a diweddariadau yn rheolaidd gan TUC Cymru.
Hyfforddiant wedi’i ariannu’n llawn
Mae’r cyrsiau’n cael eu hariannu’n llawn – nid oes ffioedd cwrs ar gyfer cynrychiolwyr o undebau sy’n gysylltiedig â'r TUC.
Cyrsiau i gynrychiolwyr – tymor yr haf 2024
Teitl y cwrs |
Darparwr |
Dyddiad dechrau |
Lleoliad |
Patrwm |
Cysylltu |
Rhaglen Datblygu Ymgyrchwyr sy’n Fenywod |
Wales TUC Cymru |
Haf 2024 – dyddiadau i’w cadarnhau |
I’w gadarnhau |
I’w gadarnhau |
Cyrsiau i gynrychiolwyr – tymor yr hydref 2024
Mae rhagor o wybodaeth am gynnwys pob cwrs ar gael ymhellach i lawr y dudalen hon.
Patrwm |
Dyddiad dechrau |
Dyddiad gorffen |
Lleoliad |
Darparwr |
Cadw lle |
|
Cynrychiolwyr Undebau – Rhan 1 |
10 dydd Gwener |
13/09/24 |
22/11/24 |
ALW Caerdydd |
Addysg Oedolion Cymru |
|
Cynrychiolwyr Undebau – Rhan 1 |
10 dydd Gwener |
13/09/24 |
22/11/24 |
ALW Wrecsam |
Addysg Oedolion Cymru |
|
Cynrychiolwyr Iechyd a Diogelwch – Rhan 1 |
10 dydd Mawrth |
24/09/24 |
03/12/24 |
Campws Heol Nash, Casnewydd |
Coleg Gwent |
|
Cynrychiolwyr Dysgu Undebau – Rhan 1 |
4 dydd Mercher |
25/09/24 |
12/10/24 |
Ar-lein |
Coleg Gwent |
|
Cyflwyniad i ymwybyddiaeth amgylcheddol (i gynrychiolwyr) |
1 dydd Iau (hanner diwrnod) |
05/09/24 |
05/09/24 |
Ar-lein |
Addysg Oedolion Cymru |
|
Gwneud y gweithle’n fwy gwyrdd – sgiliau cynrychiolwyr gwyrdd |
3 dydd Llun |
23/09/24 |
07/10/24 |
Ar-lein |
Addysg Oedolion Cymru |
|
Delio â Dileu Swyddi |
2 ddydd Mercher |
07/10/24 |
14/10/24 |
Campws Heol Nash, Casnewydd |
Coleg Gwent |
|
Partneriaeth Gymdeithasol |
2 ddydd Llun |
16/09/24 |
23/09/24 |
Campws Heol Nash, Casnewydd |
Coleg Gwent |
|
Mynd i’r Afael ag Aflonyddu Rhywiol a’i Atal |
3 dydd Mercher |
07/11/24 |
20/11/24 |
Ar-lein |
Addysg Oedolion Cymru |
|
Anabledd yn y Gweithle |
3 dydd Llun |
04/11/24 |
18/11/24 |
Ar-lein |
Addysg Oedolion Cymru |
|
Partneriaeth Gymdeithasol |
2 ddydd Mawrth |
12/11/24 |
19/11/24 |
Ar-lein |
Addysg Oedolion Cymru |
Cyrsiau i gynrychiolwyr – tymor y gwanwyn 2025
Mae rhagor o wybodaeth am gynnwys pob cwrs ar gael ymhellach i lawr y dudalen hon.
Enw’r cwrs |
Patrwm |
Dyddiad dechrau |
Dyddiad gorffen |
Lleoliad |
Darparwr |
Cadw lle |
|
Cynrychiolwyr Undebau – Rhan 1 |
10 dydd Llun |
13/01/25 |
24/03/25 |
Campws Heol Nash, Casnewydd |
Coleg Gwent |
|
|
Cynrychiolwyr Iechyd a Diogelwch – Rhan 1 |
10 dydd Gwener |
17/01/ 25 |
28/03/25 |
ALW Caerdydd |
Addysg Oedolion Cymru |
|
|
Cynrychiolwyr Iechyd a Diogelwch – Rhan 1 |
10 dydd Gwener |
17/01/25 |
28/03/25 |
ALW Wrecsam |
Addysg Oedolion Cymru |
|
|
Cynrychiolwyr Undebau – Rhan 2 |
10 dydd Gwener |
24/01/25 |
04/03/25 |
Ar-lein |
Addysg Oedolion Cymru |
|
|
Cynrychiolwyr Iechyd a Diogelwch – Rhan 2 |
10 dydd Mawrth |
14/01/25 |
25/03/25 |
Ar-lein |
Coleg Gwent |
|
|
Cynrychiolwyr Dysgu Undebau – Rhan 1 |
4 dydd Llun |
27/01/25 |
17/02/25 |
Ar-lein |
ALW |
|
|
Cynrychiolwyr Dysgu Undebau – Rhan 2 |
4 dydd Mercher |
05/03/25 |
26/03/25 |
Ar-lein |
Coleg Gwent |
|
|
Cyflwyniad i ymwybyddiaeth amgylcheddol (i gynrychiolwyr) |
1 dydd Mawrth (hanner diwrnod) |
14/01/25 |
14/01/25 |
Ar-lein |
Addysg Oedolion Cymru |
|
|
Gwneud y gweithle’n fwy gwyrdd – sgiliau cynrychiolwyr gwyrdd |
3 dydd Llun |
27/01/25 |
10/02/25 |
Ar-lein |
Coleg Gwent |
|
|
Trafod er mwyn sicrhau Trawsnewid Cyfiawn |
3 dydd Mercher |
29/01/25 |
12/02/25 |
Ar-lein |
ALW |
|
|
Partneriaeth Gymdeithasol |
2 ddydd Mercher |
15/01/25 |
22/01/25 |
Ar-lein |
Coleg Gwent |
|
|
Y Menopos yn y Gweithle |
3 dydd Llun |
10/03/25 |
24/03/25 |
Ar-lein |
Addysg Oedolion Cymru |
|
|
Partneriaeth Gymdeithasol |
2 ddydd Mawrth |
18/03/25 |
25/03/25 |
Ar-lein |
Addysg Oedolion Cymru |
|
|
Ymwybyddiaeth o Awtistiaeth / Niwroamrywiaeth yn y Gweithle |
2 ddydd Mawrth |
04/03/25 |
11/03/25 |
Ar-lein |
Addysg Oedolion Cymru |
|
|
Iechyd Meddwl – o fod yn wydn i allu gwrthsefyll |
2 ddydd Llun |
31/03/25 |
07/04/25 |
Ar-lein |
Coleg Gwent |
|
Cyrsiau i gynrychiolwyr – tymor yr haf 2025
Mae rhagor o wybodaeth am gynnwys pob cwrs ar gael ymhellach i lawr y dudalen hon.
Enw’r cwrs |
Patrwm |
Dyddiad dechrau |
Dyddiad gorffen |
Lleoliad |
Darparwr |
Cadw lle |
|
Cynrychiolwyr Undebau – Rhan 1 |
10 dydd Gwener |
02/05/25 |
11/07/25 |
ALW Caerdydd |
Addysg Oedolion Cymru |
|
|
Cynrychiolwyr Undebau – Rhan 1 |
10 dydd Gwener |
02/05/25 |
11/07/25 |
ALW Wrecsam |
Addysg Oedolion Cymru |
|
|
Cynrychiolwyr Iechyd a Diogelwch – Rhan 1 |
10 dydd Mawrth |
06/05/25 |
15/07/2025 |
Campws Heol Nash, Casnewydd |
Coleg Gwent |
|
|
Cynrychiolwyr Undebau – Rhan 2 |
10 dydd Llun |
28/04/25 |
14/07/25 |
Ar-lein |
Coleg Gwent |
|
|
Cynrychiolwyr Iechyd a Diogelwch – Rhan 2 |
10 dydd Gwener |
09/05/25 |
18/07/25 |
Ar-lein |
Addysg Oedolion Cymru |
|
|
Cynrychiolwyr Dysgu Undebau – Rhan 1 |
4 dydd Mercher |
30/04/25 |
21/05/25 |
Ar-lein |
Coleg Gwent |
|
|
Cynrychiolwyr Dysgu Undebau – Rhan 2 |
4 dydd Mawrth |
14/05/25 |
11/06/25 |
Ar-lein |
Addysg Oedolion Cymru |
|
|
Cyflwyniad i ymwybyddiaeth amgylcheddol (i gynrychiolwyr) |
1 dydd Mercher (hanner diwrnod) |
7/05/25 |
7/05/25 |
Ar-lein |
Addysg Oedolion Cymru |
|
|
Gwneud y Gweithle’n Fwy Gwyrdd – Sgiliau Cynrychiolwyr Gwyrdd |
3 dydd Llun |
02/06/25 |
16/06/25 |
Ar-lein |
Addysg Oedolion Cymru |
|
|
Trafod er mwyn sicrhau Trawsnewid Cyfiawn |
3 dydd Mawrth |
10/06/25 |
24/06/25 |
Ar-lein |
Coleg Gwent |
|
|
Mynd i’r afael ag aflonyddu rhywiol a’i atal |
3 dydd Iau |
08/05/25 |
22/05/25 |
Ar-lein |
Coleg Gwent |
|
|
Gwaith Achos Uwch |
2 ddydd Llun |
05/05/25 |
12/05/25 |
Ar-lein |
Coleg Gwent |
|
Cynnwys y cwrs: beth mae pob cwrs yn ei gynnig?
Cliciwch ar enw’r cwrs isod i gael rhagor o wybodaeth am yr hyn y byddwch yn ei ddysgu.
[Bydd y cwympflychau yn yr adran hon yn cael eu diweddaru]
Os ydych chi’n gynrychiolydd undeb newydd, mae’r cwrs hwn yn hanfodol. Byddwch yn dysgu
Byddwch yn deall y rôl a’i chyfrifoldebau. Mae’r rhain yn cynnwys cydweithio ag aelodau a chynrychiolwyr undebau eraill, siarad ag aelodau a delio â’u problemau, recriwtio aelodau a’u helpu i gymryd rhan yn yr undeb, cwrdd â rheolwyr i drafod amrywiaeth o faterion yn y gwaith, a gwneud yn siŵr bod aelodau’n cael y wybodaeth ddiweddaraf.
Os ydych chi wedi cwblhau ‘Cynrychiolwyr Undebau – Rhan 1’, neu’r hyn sydd gyfwerth yn eich undeb, bydd y cwrs hwn yn eich helpu i gamu ymlaen yn eich rôl undeb llafur. Mae’r cwrs yn ymdrin â’r canlynol:
Yr amddiffyniad gorau yn y gweithle yw undebau llafur trefnus, ond mae deall beth yw ein hawliau a sut mae gwneud y defnydd gorau ohonynt yn hanfodol i’ch rôl. Byddwch yn dysgu am y canlynol:
Os ydych chi’n gynrychiolydd Iechyd a Diogelwch newydd, mae’r cwrs hwn yn hanfodol. Byddwch yn dysgu:
Byddwch yn edrych ar y gyfraith iechyd a diogelwch, ar archwiliadau diogelwch, ar asesiadau risg ac ar fesurau ataliol. Bydd y cwrs hwn yn dysgu hanfodion iechyd a diogelwch i chi ac yn eich cyflenwi â’r sgiliau, y wybodaeth a’r hyder i gyflawni eich rôl yn effeithiol.
Os ydych chi wedi cwblhau ‘Iechyd a Diogelwch – Rhan 1’, neu’r hyn sydd gyfwerth yn eich undeb, bydd y cwrs hwn yn eich helpu i ddelio â’r materion pwysicach hynny. Bydd y cwrs yn ymdrin â’r canlynol
Er ein bod yn ceisio sicrhau gweithleoedd mwy diogel i’n haelodau, rhaid i ni gydnabod hefyd yr angen am gydraddoldeb ac amrywiaeth. Drwy gydol y cwrs, byddwch yn edrych ar faterion sy’n ymwneud â chydraddoldeb fel:
Mae iechyd meddwl yn y gweithle yn dod yn fwyfwy pwysig. Mae’r cwrs hwn yn trafod pam ei fod yn bwysig a sut gall cynrychiolwyr ddelio â phroblemau iechyd meddwl.
Mae’r cwrs hwn ar gyfer cynrychiolwyr sydd eisiau gwella eu hymwybyddiaeth o sut gall y gweithle effeithio ar iechyd meddwl ac sydd am wella polisïau ar gyfer eu haelodau.
Bydd y cwrs yn helpu cynrychiolwyr i wneud y canlynol:
Os ydych yn Gynrychiolydd Dysgu Undebau newydd, mae’r cwrs hwn yn hanfodol.
Bydd yn eich cyflenwi â’r sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen arnoch i fod yn Gynrychiolydd Dysgu Undebau effeithiol. Mae llawer mwy i rôl Cynrychiolydd Dysgu Undebau na dim ond trefnu cyrsiau yn eich gweithle. Mae’n golygu gweithio yn eich cangen, gyda’ch cyflogwyr, darparwyr a chyllidwr i ehangu mynediad i ddysgu a sicrhau cyfle cyfartal yn eich gweithle.
Bydd y cwrs yn dysgu’r canlynol i chi:
Mae’r cwrs hwn wedi’i anelu at gynrychiolwyr gwyrdd/amgylcheddol newydd a phrofiadol yn ogystal ag undebwyr llafur eraill sydd am gymryd camau ymarferol i fynd i'r afael â’r argyfwng hinsawdd a natur yn eu gweithle.
Hyd y cwrs: 3 diwrnod o ddysgu (1 diwrnod yr wythnos dros gyfnod o 3 wythnos).
Yr holl undebwyr llafur sy’n dymuno cymryd camau i fynd i'r afael â’r argyfwng hinsawdd a natur yn eu gweithle, gan gynnwys swyddogion undebau, swyddogion cangen, cynrychiolwyr, cynrychiolwyr iechyd a diogelwch, cynrychiolwyr dysgu’r undebau, cynrychiolwyr cydraddoldeb.
Bydd y cwrs hwn yn rhoi gwybodaeth a syniadau i gynrychiolwyr undebau, cynrychiolwyr iechyd a diogelwch, cynrychiolwyr gwyrdd a swyddogion cangen a fydd yn eu helpu i wybod sut i ymateb yn strategol i’r her o roi llais i weithwyr ar y trawsnewid i economi sero-net.
Bydd yn helpu cynrychiolwyr undebau i ddatblygu strategaethau negodi at ddibenion cynllunio ar gyfer trawsnewid y gweithle a datblygu dealltwriaeth o effaith ehangach y newid ar faterion fel sgiliau yn y gweithle, swyddi ac iechyd a diogelwch.
Hyd y cwrs: 3 diwrnod o ddysgu (1 diwrnod yr wythnos dros gyfnod o 3 wythnos).
Yr holl undebwyr llafur sy’n dymuno cymryd camau ymarferol i fynd i'r afael â’r argyfwng hinsawdd a natur yn eu gweithle, gan gynnwys swyddogion undebau, swyddogion cangen, cynrychiolwyr, cynrychiolwyr iechyd a diogelwch, cynrychiolwyr dysgu’r undebau, cynrychiolwyr cydraddoldeb.
Pecynnau cymorth
Mae TUC Cymru wedi cynhyrchu nifer o becynnau cymorth y gellir eu defnyddio yn y gweithle i helpu gydag amrywiol feysydd cydraddoldeb, dysgu yn y gweithle a materion amgylcheddol. Edrychwch ar y pecynnau a’u llwytho i lawr yma.
Canllawiau rhyngweithiol
Mae gennym ddarnau bach o ddeunyddiau dysgu a chyrsiau hirach ar gael. Mae pob deunydd dysgu yn hunangynhwysol ac yn cynnwys casgliad o destunau, fideos a chwisiau. Maen nhw’n para rhwng 20 a 45 munud, a gellir troi eich sylw atyn nhw gynifer o weithiau ag y dymunwch. Ein canllawiau rhyngweithiol
Gweminarau
Mae ein gweminarau ar faterion penodol yn y gweithle yn adnodd hyfforddi gwerthfawr i gynrychiolwyr ac aelodau. Cofrestrwch ar gyfer ein digwyddiadau sydd ar y gweill, neu gwyliwch ein gweminarau blaenorol.
Rhwydweithiau
Mae gennym nifer o rwydweithiau gweithredol lle gallwch gael yr wybodaeth ddiweddaraf yn rheolaidd am faterion pwysig yn y gweithle. Maen nhw hefyd yn darparu cyfleoedd parhaus i rwydweithio a rhannu profiadau gyda chynrychiolwyr eraill y tu hwnt i’r ystafell ddosbarth.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael am ein Rhwydwaith Gweithleoedd Gwyrddach a Rhwydwaith Cynrychiolwyr Dysgu’r Undebau. Rydym yn bwriadu lansio rhwydwaith newydd o gynrychiolwyr iechyd a diogelwch yn ystod gwanwyn/haf 2024. Bydd rhagor o fanylion yn cael eu hychwanegu at y dudalen hon cyn bo hir.
Cyfeiriadur cyrsiau: Fersiwn PDF
Mae’r PDF hwn yn cynnwys crynodeb o ddyddiadau pob cwrs - hwylus i’w roi ar hysbysfyrddau.
Mae’r cyfeiriadur hwn yn rhoi manylion ein cyrsiau diweddaraf. Os nad ydych chi’n gallu dod o hyd i gwrs addas i’ch diddordebau/anghenion, neu os oes gennych chi unrhyw ymholiadau, mae croeso i chi gysylltu ag aelod o dîm addysg TUC Cymru yn cymru@tuc.org.uk
Mae’r cyfeiriadur yn cynnwys:
Llwytho’r cyfeiriadur cyrsiau i lawr (pdf) Cymraeg | Saesneg
Gallwch hefyd ofyn am gopïau caled o’r cyfeiriadur cyrsiau drwy anfon e-bost at cymru.tuc.org.uk