Mae stereoteipiau yn y cyfryngau yn aml yn dylanwadu ar ymwybyddiaeth y cyhoedd o faterion cysylltiedig ag anabledd. Mae hyn yn aml yn begynol iawn – naill ai’n rhoi darlun negyddol iawn o bobl anabl neu’n eu trin fel arwyr ysbrydoledig dim ond am fyw eu bywydau.
Mae’r argyfwng Covid-19 wedi cael effaith bellach ar bobl anabl. I rai, mae eu ceisiadau blaenorol am gyfleoedd i weithio gartref, a gafodd eu gwrthod yn wreiddiol, wedi cael eu gwyrdroi dros nos wrth i gwmnïau sylweddoli’n sydyn y byddai modd goresgyn y rhwystrau roedden nhw wedi’u rhoi yn y ffordd. I eraill, mae’r realiti o fyw gyda chyflyrau cynfodol mewn pandemig byd-eang yn gallu bod yn frawychus ac yn flinedig.
Fel undeb llafur, mae angen i ni wneud popeth y gallwn ei wneud i amddiffyn gweithwyr anabl. Mae angen i ni weithio yn y ffordd fwyaf diogel bosibl a diogelu gweithwyr pan nad yw hynny’n bosibl. Hefyd, mae angen i ni liniaru effeithiau’r dirywiad economaidd a fydd yn dilyn yr argyfwng hwn.
Os ydych chi’n weithiwr anabl, ystyriwch ymuno ag undeb heddiw. Mae llawer o undebau wedi tynnu cyfyngiadau o ran aelodaeth ac maen nhw’n rhoi cymorth cyfreithiol o’r diwrnod cyntaf y bydd rhywun yn ymuno.
Gweithwyr hanfodol yw gweithwyr y mae eu gwaith yn hanfodol i ymateb i’r coronafeirws yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol, athrawon, pobl sy'n gweithio mewn archfarchnadoedd a llawer mwy o alwedigaethau. Mae tua 490,000 o weithwyr hanfodol yng Nghymru, sef tua thraean o'r gweithlu.
Mae pobl anabl yn cyfrif am 15% o weithwyr hanfodol. Maent yn cyfrif am gyfran debyg o'r holl weithwyr, ond mae gwahaniaethau o fewn diwydiannau.
Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ganllaw ym mis Mawrth 2020 ar y mathau o fusnesau a ddylai aros ar gau yn ystod camau cychwynnol y pandemig coronafeirws. Roedd busnesau fel tafarndai, bwytai a chanolfannau hamdden wedi’u cynnwys yn y canllawiau hyn.
Mae 17% o'r holl weithwyr anabl yn gweithio mewn diwydiannau a gafodd orchymyn i gau, sydd ychydig yn uwch na'r gyfran o weithwyr nad ydynt yn anabl (15%).
Mae Adran 44 o Ddeddf Hawliau Cyflogaeth 1996 yn rhoi hawl i weithwyr adael gweithle sy'n anniogel a gwrthod dychwelyd. Mae sawl enghraifft o ganghennau undebau yn cerdded allan gan ddyfynnu’r ddeddf hon. Os ydych chi’n meddwl bod eich gweithle’n anniogel oherwydd Covid-19, cysylltwch â’ch undeb i gael cyngor.
Deddf Cydraddoldeb 2010 yw’r darn o ddeddfwriaeth allweddol sy’n ymdrin â gwahaniaethu yn y gweithle. Mae’n gwarchod gweithwyr rhag gwahaniaethu ar sail oedran, rhywedd, anabledd, hil, crefydd neu gred, cyfeiriadedd rhywiol, priodas neu bartneriaeth sifil, beichiogrwydd neu famolaeth, neu ailbennu rhywedd.
Mae dyletswydd ar gyflogwyr o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 i wneud addasiadau rhesymol ar gyfer pobl anabl. Mae’r gyfraith yn dweud mai dim ond yr hyn sy’n rhesymol mae’n rhaid i gyflogwyr ei wneud.
Mae’r prawf i bennu beth sy’n rhesymol yn wrthrychol. Nid barn un gweithiwr yn unig am beth sy’n rhesymol yw hyn. Pan fydd cyflogwyr yn meddwl am wneud addasiadau rhesymol, gallent ystyried:
Y nod cyffredinol y dylid gweithio tuag ato yw dileu, lleihau neu atal unrhyw anfantais mae gweithwyr anabl yn ei hwynebu. Gall hyn gynnwys ystyried:
Mae gan gynrychiolwyr undebau ran bwysig i'w chwarae o ran:
I gael rhagor o wybodaeth am sut gall y Ddeddf Cydraddoldeb amddiffyn gweithwyr, ewch i weld ein canllaw i gynrychiolwyr ar Covid 19 ac addasiadau rhesymol
Darllenwch ein canllaw i gynrychiolwyr ar y coronafeirws i gael rhagor o wybodaeth am faterion cysylltiedig â Covid-19 yn y gweithle ac i gael help i negodi’n effeithiol â chyflogwyr.
Rydyn ni’n poeni bod rhai cyflogwyr yn herio’r gyfraith. Rydyn ni’n gweithio gyda Llywodraeth Cymru i warchod incwm, swyddi, ac iechyd gweithwyr anabl, yn ogystal â’u mynediad i wasanaethau.
Mae’r bwlch swyddi a’r bwlch rhwng cyflogau oherwydd anabledd yn bodoli eisoes, a bydd yr argyfwng hwn yn ymestyn y bylchau hynny. Byddwn ni’n gweithio gyda’r llywodraeth i ymchwilio i sut gellid mynd ati i archwilio hyn mewn rhagor o fanylder a’i liniaru.
Mae’n rhaid i unrhyw gamau mae Llywodraeth Cymru neu Lywodraeth y DU yn eu cymryd fod yn rhan o strategaeth ehangach i warchod iechyd a diogelwch pobl yn y gweithle. Mae’n rhaid iddi gynnwys canllawiau cryfach gan y llywodraeth (gyda deddfwriaeth i'w hategu) ynglŷn â’r mesurau diogelwch y mae’n rhaid i bob cyflogwr eu hystyried nawr. Mae’n rhaid iddi hefyd gynnwys pwerau newydd (drwy rwydwaith tridarn sy’n cynnwys cyflogwyr, undebau a’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch) er mwyn galluogi’r llywodraeth i orfodi cyflogwyr nad ydynt yn dilyn y camau hyn i gau.
Darllenwch am sut rydyn ni’n ymgyrchu i wella cydraddoldeb i bobl anabl yn y gweithle.
I roi dealltwriaeth i chi o faterion cysylltiedig â COVID-19 yn y gweithle, ac i ddarparu cymorth ynglŷn â negodi’n effeithiol â chyflogwyr a gwarchod y gweithlu, cliciwch yma.
Mae’r bwlch swyddi a’r bwlch rhwng cyflogau oherwydd anabledd yn bodoli eisoes, a bydd yr argyfwng hwn yn ymestyn y bylchau hynny. Byddwn ni’n gweithio gyda’r llywodraeth i ymchwilio i sut gellid mynd ati i archwilio hyn mewn rhagor o fanylder a’i liniaru.
Ydych chi’n poeni nad ydych chi’n gallu aros yn ddiogel rhag y coronafeirws yn eich gweithle? Dywedwch wrthym am eich profiadau drwy ddefnyddio ein ffurflen datgelu.
Byddwn yn rhannu’r wybodaeth am eich pryderon iechyd a diogelwch yn ddienw â Llywodraeth Cymru a’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch. Os byddwch yn rhoi caniatâd i rannu eich manylion, byddwn hefyd yn adrodd y mater i’ch undeb llafur ar eich rhan.
Llenwch ein ffurflen pryderon am iechyd a diogelwch
Mae undebau’n helpu pobl i ddod ynghyd, yn atal pobl rhag cael eu trin yn annheg ac yn cael gwell bargen gan eu cyflogwyr.
Maen nhw yno yn ystod cyfnodau anodd – yn rhoi cyngor cyfreithiol am ddim os oes angen. Gall aelodau o undeb fanteisio ar lawer o gynigion a gostyngiadau hefyd. A phob blwyddyn, bydd undebau’n helpu dros 200,000 o bobl i gael gafael ar y cyfleoedd dysgu a hyfforddi sydd eu hangen arnyn nhw i symud ymlaen yn eu gyrfa.
Onid ydy hi’n amser i chi ymuno ag undeb?