Mae gweithwyr anabl wedi bod yn delio â bwlch swyddi a bwlch rhwng cyflogau oherwydd anabledd ers cyn yr argyfwng Covid-19. Mae diwylliant sy’n ffafrio pobl abl yn golygu bod gweithwyr anabl yn ei chael yn anodd cael cyflogaeth, datblygu o fewn swyddi, a chael cyflog teg.
Disabled workers in Wales and Covid-19

Mae stereoteipiau yn y cyfryngau yn aml yn dylanwadu ar ymwybyddiaeth y cyhoedd o faterion cysylltiedig ag anabledd. Mae hyn yn aml yn begynol iawn – naill ai’n rhoi darlun negyddol iawn o bobl anabl neu’n eu trin fel arwyr ysbrydoledig dim ond am fyw eu bywydau.

Mae’r argyfwng Covid-19 wedi cael effaith bellach ar bobl anabl.  I rai, mae eu ceisiadau blaenorol am gyfleoedd i weithio gartref, a gafodd eu gwrthod yn wreiddiol, wedi cael eu gwyrdroi dros nos wrth i gwmnïau sylweddoli’n sydyn y byddai modd goresgyn y rhwystrau roedden nhw wedi’u rhoi yn y ffordd.   I eraill, mae’r realiti o fyw gyda chyflyrau cynfodol mewn pandemig byd-eang yn gallu bod yn frawychus ac yn flinedig.

Fel undeb llafur, mae angen i ni wneud popeth y gallwn ei wneud i amddiffyn gweithwyr anabl. Mae angen i ni weithio yn y ffordd fwyaf diogel bosibl a diogelu gweithwyr pan nad yw hynny’n bosibl. Hefyd, mae angen i ni liniaru effeithiau’r dirywiad economaidd a fydd yn dilyn yr argyfwng hwn.

Problemau sy'n wynebu gweithwyr anabl yng Nghymru

  • Mae’n amlwg iawn bod pethau wedi symud oddi wrth y model cymdeithasol o anabledd tuag at y model meddygol.  Mae hyn yn rhoi llawer o weithredwyr, sydd wedi brwydro’n galed yn erbyn y model meddygol, mewn mwy o risg. Mae ganddo hefyd y potensial i ddad-wneud llawer o’r gwaith mae pobl anabl, y symudiad Undebau Llafur, mudiadau hawliau pobl anabl a chynghreiriaid wedi’i wneud i drafod pwysigrwydd y model cymdeithasol o anabledd.
  • Gall yr adroddiadau am farwolaethau’r coronafeirws ddad-ddyneiddio’r bobl mae’r marwolaethau hynny’n eu cynrychioli.  Mae hyn yn wir i bobl anabl yn enwedig, pan fydd y cyfryngau’n nodi marwolaethau gyda'r cafeat bod gan y person gyflyrau meddygol eisoes.  Dydy’r marwolaethau hyn ddim yn llai o drychineb ac maen nhw’n haeddu’r un parch a difrifoldeb.
  • Mae llythyrau gwarchod sydd wedi cael eu hanfon i'r cyfeiriadau anghywir neu wedi bod yn hwyr yn cyrraedd wedi achosi problemau i weithwyr anabl. Mae Undebau Llafur wedi cefnogi llawer o weithwyr nad yw eu cyflogwyr wedi credu gweithwyr anabl, hyd yn oed pan maen nhw wedi cael llythyr gwarchod.
  • Dydy nifer sylweddol o’r aelodau anabl nad ydynt yn teimlo’n ddiogel yn y gweithle ddim yn cael cynnig absenoldeb ffyrlo fel addasiad rhesymol. Defnyddiodd un undeb enghraifft o achos lle gwrthodwyd ffyrlo i aelod a nam ar y golwg oedd yn gweithio mewn safle danfon doedd dim modd iddo gadw pellter cymdeithasol oherwydd ei anabledd. Mae'r aelod hwn wedi cael ei orfodi i gymryd absenoldeb oherwydd salwch a dim ond tâl salwch statudol mae’n ei gael nawr.
  • Mewn nifer o weithleoedd, mae’r strwythurau a’r hierarchaeth sy’n bodoli yn atal gweithwyr anabl rhag gwneud cynnydd.  Gall hyn adael gweithwyr anabl yn gaeth mewn swyddi sydd ddim yn talu digon a lle nad yw eu sgiliau na’u llwyddiannau’n cael eu gwerthfawrogi.
  • Mae hwn yn gyfnod anodd i'r rheini sydd â dementia neu’n gofalu am anwyliaid â dementia wrth hunanynysu.  Efallai nad yw’r cymorth oedden nhw’n dibynnu arno, neu’r gofal seibiant oedden nhw’n arfer ei dderbyn, ar gael mwyach.
  • Mae undebau’n poeni am effaith mynd i weithio a gweithio gartref ar iechyd meddwl aelodau anabl.
  • Mae aelodau anabl wedi wynebu anawsterau o ran cael cyflogwyr i gytuno ar addasiadau rhesymol neu eu cadw fel gweithwyr, yn rhannol oherwydd bod gweithleoedd yn brin o staff oherwydd salwch.
  • I rai pobl anabl sydd wedi bod yn gofyn am gael gweithio gartref am amser hir, mae’n syfrdanol pa mor gyflym wnaeth cyflogwyr ganiatáu iddynt ddechrau gweithio gartref, gan wneud i lawer o bobl feddwl pam yn union oedd cyflogwyr mor gyndyn o wneud hynny o’r blaen.
  • Mae rhai gweithwyr anabl yn dibynnu ar weithfannau hygyrch yn y gweithle. Os nad yw’r rhain ar gael gartref, gall gweithio gartref fod yn niweidiol i’w hiechyd corfforol a meddyliol.
  • Cyn yr argyfwng, roedd pobl anabl eisoes yn fwy tebygol o fod yn byw mewn tlodi. Mae credyd cynhwysol yn cael effaith anghymesur ar bobl anabl, ac mae adroddiad gan Bwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus Llywodraeth y DU wedi cyhuddo Gweinidogion o beidio â gwrando ar bryderon pobl anabl. Yn ôl yr adroddiad, mae pobl anabl sy’n gweithio yn wynebu gostyngiad sylweddol yn eu cymorth ariannol pan fyddant yn symud i’r cynllun credyd cynhwysol. Mae hyn oherwydd bod y “lwfans gwaith” – sydd wedi’i ddylunio i wella’r cymhellion i bobl anabl fynd i weithio – ddim ond yn cael ei ddyfarnu i’r bobl hynny mae eu hasesiad yn pennu eu bod nhw ddim yn gallu gweithio.  Mae hyn yn golygu bod rhai pobl anabl sy’n gweithio mewn sefyllfa waeth yn ariannol bob mis.

Os ydych chi’n weithiwr anabl, ystyriwch ymuno ag undeb heddiw. Mae llawer o undebau wedi tynnu cyfyngiadau o ran aelodaeth ac maen nhw’n rhoi cymorth cyfreithiol o’r diwrnod cyntaf y bydd rhywun yn ymuno.

Gweithwyr hanfodol yw gweithwyr y mae eu gwaith yn hanfodol i ymateb i’r coronafeirws yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol, athrawon, pobl sy'n gweithio mewn archfarchnadoedd a llawer mwy o alwedigaethau. Mae tua 490,000 o weithwyr hanfodol yng Nghymru, sef tua thraean o'r gweithlu.

Mae pobl anabl yn cyfrif am 15% o weithwyr hanfodol. Maent yn cyfrif am gyfran debyg o'r holl weithwyr, ond mae gwahaniaethau o fewn diwydiannau.

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ganllaw ym mis Mawrth 2020 ar y mathau o fusnesau a ddylai aros ar gau yn ystod camau cychwynnol y pandemig coronafeirws. Roedd busnesau fel tafarndai, bwytai a chanolfannau hamdden wedi’u cynnwys yn y canllawiau hyn.

Mae 17% o'r holl weithwyr anabl yn gweithio mewn diwydiannau a gafodd orchymyn i gau, sydd ychydig yn uwch na'r gyfran o weithwyr nad ydynt yn anabl (15%).

Eich hawliau fel gweithiwr anabl

Your rights as a disabled worker

Mae Adran 44 o Ddeddf Hawliau Cyflogaeth 1996 yn rhoi hawl i weithwyr adael gweithle sy'n anniogel a gwrthod dychwelyd. Mae sawl enghraifft o ganghennau undebau yn cerdded allan gan ddyfynnu’r ddeddf hon. Os ydych chi’n meddwl bod eich gweithle’n anniogel oherwydd Covid-19, cysylltwch â’ch undeb i gael cyngor.

Darllenwch fwy am eich hawliau os ydych chi’n gwrthod gweithio oherwydd pryderon diogelwch yn gysylltiedig â’r coronafeirws

Deddf Cydraddoldeb 2010 yw’r darn o ddeddfwriaeth allweddol sy’n ymdrin â gwahaniaethu yn y gweithle. Mae’n gwarchod gweithwyr rhag gwahaniaethu ar sail oedran, rhywedd, anabledd, hil, crefydd neu gred, cyfeiriadedd rhywiol, priodas neu bartneriaeth sifil, beichiogrwydd neu famolaeth, neu ailbennu rhywedd.

Mae dyletswydd ar gyflogwyr o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 i wneud addasiadau rhesymol ar gyfer pobl anabl.  Mae’r gyfraith yn dweud mai dim ond yr hyn sy’n rhesymol mae’n rhaid i gyflogwyr ei wneud.

Mae’r prawf i bennu beth sy’n rhesymol yn wrthrychol. Nid barn un gweithiwr yn unig am beth sy’n rhesymol yw hyn. Pan fydd cyflogwyr yn meddwl am wneud addasiadau rhesymol, gallent ystyried:

  • ymarferoldeb
  • cost
  • maint ac adnoddau’r sefydliad
  • y cymorth ariannol sydd ar gael

Y nod cyffredinol y dylid gweithio tuag ato yw dileu, lleihau neu atal unrhyw anfantais mae gweithwyr anabl yn ei hwynebu. Gall hyn gynnwys ystyried:

  1. y ffordd maen nhw’n gwneud pethau
  2. unrhyw nodweddion ffisegol yn y gweithle
  3. diffyg gwasanaeth neu gymorth ategol
  4. mae’n rhoi’ch aelod anabl dan anfantais sylweddol o’i gymharu â pherson nad yw’n anabl
  5. pa mor effeithiol fydd y newid o ran osgoi'r anfantais y byddai’ch aelod yn ei hwynebu fel arall

Mae gan gynrychiolwyr undebau ran bwysig i'w chwarae o ran:

  • hybu hawliau cyfartal i bob aelod. Gall cynrychiolwyr ddod i gytundeb gyda chyflogwyr ynghylch polisïau a gweithdrefnau sy'n hyrwyddo cydraddoldeb ac nad ydynt yn arwain at roi un grŵp dan anfantais.
  • creu awyrgylch cefnogol yn y gwaith ac yn yr undeb lle mae pob aelod yn teimlo’i fod yn gallu cymryd rhan a bod ei safbwyntiau’n cael eu gwerthfawrogi.
  • herio achosion o aflonyddu a gwahaniaethu a gwneud yn siŵr yr ymdrinnir yn effeithiol â chwynion.
  • ymddwyn fel model rôl o ran trin pawb yn deg.

I gael rhagor o wybodaeth am sut gall y Ddeddf Cydraddoldeb amddiffyn gweithwyr, ewch i weld ein canllaw i gynrychiolwyr ar Covid 19 ac addasiadau rhesymol

Beth ddylai eich cyflogwr ei wneud

  • Dylai eich cyflogwr fod yn cydymffurfio â'r gyfraith ar addasiadau rhesymol o hyd. Mae pobl wedi camgymryd bod ‘busnes arferol’ wedi’i atal dros dro cyn belled â bod y Ddeddf Cydraddoldeb yn y cwestiwn. Dylai unrhyw addasiadau rhesymol rydych chi wedi cytuno arnynt barhau i fod ar waith.
  • Efallai bydd pobl sy’n wynebu mwy o risg angen addasu neu gael caniatâd i newid eu trefniadau gwaith neu weithio o gartref. Gellir trafod hyn gyda’u rheolwr llinell.  Dylai rheolwyr llinell weithio gyda gweithwyr anabl i sicrhau eu bod yn cael y gefnogaeth gywir a’u bod yn ddiogel yn y gwaith, yn enwedig yn ystod argyfwng Covid-19. Os ydych chi’n wynebu risg uwch, siaradwch â’ch rheolwr llinell am addasiadau, gan newid eich trefniadau gwaith neu weithio gartref.
  • Dylai pob cyflogwr edrych ar eu strwythurau tâl ac ystyried yn ofalus lle mae gweithwyr anabl yn y sefydliad, ac ar ba fath o gontractau maen nhw’n gweithio.  Yna fe ddylen nhw geisio mynd i'r afael ag unrhyw anghydraddoldebau a chreu cynllun gydag amserlen i wneud newidiadau er mwyn eu cywiro nhw.
  • Dylai cyflogwyr fod yn cynnal asesiadau risg ar gyfer gweithio gartref, gan ymgynghori ag undebau. Dylai pawb allu gweithio’n gyfforddus ac yn ddiogel. Dylai cyflogwyr ystyried damweiniau, anafiadau, iechyd meddwl, lefelau straen a’r risg o drais – ochr yn ochr â ffactorau eraill sy’n caniatáu i weithwyr weithio’n gyfforddus ac yn ddiogel.  Cyflogwyr ddylai ddarparu addasiadau i gadw gweithwyr yn gyfforddus, fel cyfarpar i gefnogi ystum corff da neu i reoli tymheredd. Darllenwch fwy am sut mae cadw’n ddiogel wrth weithio gartref a sut gall cynrychiolwyr iechyd a diogelwch helpu pobl sy’n gweithio gartref.
  • Er bod risgiau iechyd a diogelwch i'w hystyried yng nghyswllt gweithio gartref, yn enwedig o ran cyfarpar, a bod angen i gyflogwyr gymryd y gofynion o ran addasiadau rhesymol o ddifrif; mae gweithio gartref yn fuddiol i lawer o bobl, ac rydyn ni’n gobeithio y bydd rheolwyr yn fwy agored i gynnig hyblygrwydd yn y dyfodol.  Gall yr hyblygrwydd hwn fod yn fuddiol i bobl anabl yn enwedig. Mae’r hyblygrwydd ychwanegol yn eu galluogi nhw i reoli eu gwaith yn wahanol, ac rydyn ni’n gobeithio y bydd rheolwyr yn fwy agored i gynnig trefniadau gweithio hyblyg yn y dyfodol. Mae cynnig trefniadau gweithio hyblyg yn galluogi cyflogwyr i elwa o allu recriwtio o blith grŵp mwy o bobl. Mae gweithio gartref hefyd yn dda i’r hinsawdd oherwydd mae’n lleihau allyriadau gan gymudwyr. Darllenwch ein hadroddiad ar economi werdd a phontio’n deg.
  • Dylai cyflogwyr wrando ar aelodau anabl yn eu gweithle.  Gall rhoi man diogel i bobl anabl drefnu, rhwydweithio a thrafod ynddo fod yn gam cyntaf. Ond mae angen i gyflogwyr wneud yn siŵr eu bod yn gwrando ar bobl anabl pan fyddant yn codi materion sy’n ymwneud ag anabledd a’r gweithle.
Disabled workers in Wales and Covid-19

Darllenwch ein canllaw i gynrychiolwyr ar y coronafeirws i gael rhagor o wybodaeth am faterion cysylltiedig â Covid-19 yn y gweithle ac i gael help i negodi’n effeithiol â chyflogwyr.

Beth rydym ni’n gofyn i’r Llywodraeth ei wneud i warchod gweithwyr anabl

Rydyn ni’n poeni bod rhai cyflogwyr yn herio’r gyfraith.  Rydyn ni’n gweithio gyda Llywodraeth Cymru i warchod incwm, swyddi, ac iechyd gweithwyr anabl, yn ogystal â’u mynediad i wasanaethau.

Mae’r bwlch swyddi a’r bwlch rhwng cyflogau oherwydd anabledd yn bodoli eisoes, a bydd yr argyfwng hwn yn ymestyn y bylchau hynny.  Byddwn ni’n gweithio gyda’r llywodraeth i ymchwilio i sut gellid mynd ati i archwilio hyn mewn rhagor o fanylder a’i liniaru.

Mae’n rhaid i unrhyw gamau mae Llywodraeth Cymru neu Lywodraeth y DU yn eu cymryd fod yn rhan o strategaeth ehangach i warchod iechyd a diogelwch pobl yn y gweithle. Mae’n rhaid iddi gynnwys canllawiau cryfach gan y llywodraeth (gyda deddfwriaeth i'w hategu) ynglŷn â’r mesurau diogelwch y mae’n rhaid i bob cyflogwr eu hystyried nawr. Mae’n rhaid iddi hefyd gynnwys pwerau newydd (drwy rwydwaith tridarn sy’n cynnwys cyflogwyr, undebau a’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch) er mwyn galluogi’r llywodraeth i orfodi cyflogwyr nad ydynt yn dilyn y camau hyn i gau.

Darllenwch am sut rydyn ni’n ymgyrchu i wella cydraddoldeb i bobl anabl yn y gweithle.

I roi dealltwriaeth i chi o faterion cysylltiedig â COVID-19 yn y gweithle, ac i ddarparu cymorth ynglŷn â negodi’n effeithiol â chyflogwyr a gwarchod y gweithlu, cliciwch yma.

Mae’r bwlch swyddi a’r bwlch rhwng cyflogau oherwydd anabledd yn bodoli eisoes, a bydd yr argyfwng hwn yn ymestyn y bylchau hynny.  Byddwn ni’n gweithio gyda’r llywodraeth i ymchwilio i sut gellid mynd ati i archwilio hyn mewn rhagor o fanylder a’i liniaru.

Darllenwch ein hymateb llawn i ymchwiliad Llywodraeth y DU ar y Coronafeirws a’r effaith ar bobl â nodweddion gwarchodedig.

Rhowch wybod i ni am eich profiad

Ydych chi’n poeni nad ydych chi’n gallu aros yn ddiogel rhag y coronafeirws yn eich gweithle?  Dywedwch wrthym am eich profiadau drwy ddefnyddio ein ffurflen datgelu.

Byddwn yn rhannu’r wybodaeth am eich pryderon iechyd a diogelwch yn ddienw â Llywodraeth Cymru a’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch. Os byddwch yn rhoi caniatâd i rannu eich manylion, byddwn hefyd yn adrodd y mater i’ch undeb llafur ar eich rhan.

Llenwch ein ffurflen pryderon am iechyd a diogelwch

Ymuno ag undeb

Mae undebau’n helpu pobl i ddod ynghyd, yn atal pobl rhag cael eu trin yn annheg ac yn cael gwell bargen gan eu cyflogwyr.

Maen nhw yno yn ystod cyfnodau anodd – yn rhoi cyngor cyfreithiol am ddim os oes angen. Gall aelodau o undeb fanteisio ar lawer o gynigion a gostyngiadau hefyd. A phob blwyddyn, bydd undebau’n helpu dros 200,000 o bobl i gael gafael ar y cyfleoedd dysgu a hyfforddi sydd eu hangen arnyn nhw i symud ymlaen yn eu gyrfa.

Onid ydy hi’n amser i chi ymuno ag undeb?

Dod o hyd i undeb nawr