Mae arnom eisiau cefnogi gweithwyr BME i roi tystiolaeth o’u profiad yn y gwaith, yn enwedig gan fod eich lleisiau wedi bod ar goll i raddau helaeth o’r drafodaeth bresennol. Mae arnom eisiau i weithwyr BME rannu eu profiadau o weithleoedd yng Nghymru ac awgrymu beth sydd angen newid.
Gwnewch yn siŵr bod eich pryderon yn cael eu clywed. Llenwch ein harolwg.
Mae undebau’n helpu miloedd o weithwyr BME gyda’u materion yn y gweithle. Ond maen nhw hefyd yn mynd i’r afael â materion sy’n bwysig i'r gymuned BME ehangach, fel:
Mae yna hefyd anghydraddoldebau iechyd yn gysylltiedig â hil a thlodi.
Gwyliwch ein Swyddog Polisi Nisreen Mansour yn esbonio beth mae'r data presennol yn ei ddweud wrthym am y problemau mae gweithwyr BME yng Nghymru yn eu hwynebu. Lawrlwythwch y sleidiau o’r cyflwyniad.
Yn aml mae diffyg mynediad i fwyd a mannau i wneud ymarfer corff sy’n iach ac yn addas o ran diwylliant a chrefydd yn cyfrannu at lefelau uwch diabetes a phwysedd gwaed uchel mewn grwpiau BME.
Ac mae unrhyw un sydd ag un o’r cyflyrau iechyd hyn sy’n bodoli eisoes hefyd mewn mwy o berygl o gael y coronafeirws.
Darllen blog y TUC: Covid-19: Sut mae hiliaeth yn gallu lladd.
“Mae pobl BME yn tueddu i fod mewn categori economaidd-gymdeithasol is, ac yn tueddu i fod yn dlotach. Maen nhw hefyd yn fwy tebygol o fod yn byw gyda theuluoedd estynedig ac yn methu ag ynysu oddi wrth aelodau mwy bregus o'r teulu. Problem arall yw nad yw’r wybodaeth ar gael mewn nifer o ieithoedd. Mae rhai pobl wedi dibynnu ar wybodaeth sy’n dod o rannau eraill o’r byd er mwyn deall effaith y feirws - roedd yr wybodaeth a roddwyd i gymunedau BME yn llawer arafach.”
– SHAVANAH TAJ, YSGRIFENNYDD CYFFREDINOL, TUC CYMRU
Mae llawer o undebau wedi tynnu cyfyngiadau o ran aelodaeth ac maen nhw’n rhoi cymorth cyfreithiol o’r diwrnod cyntaf y bydd rhywun yn ymuno. Ymunwch ag undeb heddiw.
Gweithwyr hanfodol yw gweithwyr y mae eu gwaith yn hanfodol i ymateb i’r coronafeirws yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol, athrawon, pobl sy'n gweithio mewn archfarchnadoedd a llawer mwy o alwedigaethau. Mae tua 490,000 o weithwyr hanfodol yng Nghymru, sef tua thraean o'r gweithlu.
Er bod gweithwyr ag ethnigrwydd gwyn yn cyfrif am bron i 95% o'r holl weithwyr hanfodol yng Nghymru, mae rhai grwpiau ethnig eraill yn fwy tebygol o fod yn weithwyr hanfodol. Mae'r data sydd ar gael yn dangos bod mwy na hanner gweithwyr ethnigrwydd Bangladeshaidd yn weithwyr hanfodol, a bod hanner gweithwyr Du, Affricanaidd, Caribïaidd a Du Prydeinig yn gweithio mewn galwedigaethau hanfodol. Gweithwyr o ethnigrwydd Pacistanaidd sy’n lleiaf tebygol o fod yn weithwyr hanfodol.
Mewn rhai grwpiau ethnig mae cyfran uwch fyth o fenywod. Roedd tua dwy ran o dair (66%) o weithwyr hanfodol o gefndir Asiaidd heblaw Indiaidd, Pacistanaidd, Bangladeshaidd a Tsieineaidd yn fenywod.
Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ganllaw ym mis Mawrth 2020 ar y mathau o fusnesau a ddylai aros ar gau yn ystod camau cychwynnol y pandemig coronafeirws. Roedd busnesau fel tafarndai, bwytai a chanolfannau hamdden wedi’u cynnwys yn y canllawiau hyn.
Yn 2019 roedd tua 230,000 o bobl, tua 16% o gyfanswm y gweithlu, wedi’u cyflogi mewn diwydiannau yng Nghymru a gafodd orchymyn i gau ar ôl y pandemig coronafeirws cychwynnol. Mae menywod, pobl ifanc a gweithwyr o gefndir lleiafrifol ethnig yn fwy tebygol o gael eu cyflogi yn y diwydiannau hynny.
Mae 20% o'r holl weithwyr o gefndir du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig yn gweithio mewn diwydiannau a gafodd eu gorfodi i gau, o'i gymharu â 15% o weithwyr gwyn. Roedd 93% o'r holl weithwyr yn y diwydiannau hyn yn wyn (o gymharu â 95% o'r holl weithwyr ledled Cymru).
Mae Adran 44 o Ddeddf Hawliau Cyflogaeth 1996 yn rhoi hawl i weithwyr adael gweithle sy'n anniogel a gwrthod dychwelyd.
Mae sawl enghraifft o ganghennau undebau yn cerdded allan gan ddyfynnu’r ddeddf hon. Os yw cynrychiolwyr yn teimlo bod eu gweithle’n anniogel oherwydd Covid-19, fe ddylen nhw gysylltu â thîm cyfreithiol eu hundeb am gyngor ar frys ynglŷn â gweithredu.
Mae 20% o staff y GIG yn y DU yn unigolion BME a 44% o staff meddygol y GIG yn y DU yn unigolion BME.
Deddf Cydraddoldeb 2010 yw’r darn o ddeddfwriaeth allweddol sy’n ymdrin â gwahaniaethu yn y gweithle. Mae’n gwarchod gweithwyr rhag gwahaniaethu ar sail oedran, rhywedd, anabledd, hil, crefydd neu gred, cyfeiriadedd rhywiol, priodas neu bartneriaeth sifil, beichiogrwydd neu famolaeth, neu ailbennu rhywedd.
Gall Deddf Cydraddoldeb 2010 helpu i warchod gweithwyr BME. Mae’n dweud bod hil yn cynnwys:
(a) lliw;
(b) cenedligrwydd;
(c) tarddiad cenedlaethol neu ethnig
Mae gan gynrychiolwyr undebau ran bwysig i'w chwarae:
I gael mwy o wybodaeth am sut gall y Ddeddf Cydraddoldeb warchod gweithwyr ewch i gwefan EHRC.
Rydyn ni’n poeni bod rhai cyflogwyr yn herio’r gyfraith. Rydyn ni’n gweithio gyda Llywodraeth Cymru i warchod incwm, swyddi, ac iechyd gweithwyr BME, yn ogystal â’u mynediad i wasanaethau.
Mae sawl adroddiad wedi cael eu cynhyrchu - rhai wedi cael ei comisiynu gan Lywodraeth y DU - sydd wedi argymell gweithredu er mwyn trechu rhagfarn a’r anfanteision sydd wedi’u hen sefydlu ac sy’n wynebu gweithwyr BME.
Pe byddai’r argymhellion hyn wedi cael sylw, efallai byddai unigolion BME yn wynebu sefyllfa wahanol heddiw.
Mae’r TUC wedi ysgrifennu at Lywodraeth y DU i godi’r materion canlynol:
Ni allwn barhau i beidio â gweithredu ac mae argyfwng COVID 19 wedi dangos yn glir i ni bod anghydraddoldeb nid yn unig yn cyfyngu ar gyfleoedd bywyd pobl Dduon ond hefyd yn cyfrannu at roi terfyn ar eu bywydau yn gynt na’r disgwyl.
Rydyn ni’n bryderus ynglŷn â’r ffaith bod y ddadl ynghylch yr effaith anghymesur mae COVID 19 yn ei chael yn canolbwyntio ar symptomau anghydraddoldeb, fel cyfraddau uwch o asthma, yn hytrach na’r ffactorau achosol fel tlodi sy’n sail i’r gyfradd uwch o lygredd aer mae cymunedau BME yn fwy agored iddynt.
Gallai’r dull hwn o weithredu arwain at feddwl yn ddrwg a rhoi bai ar gymunedau yn hytrach na gweithredu mewn ffordd sy’n canolbwyntio ac yn mynd i’r afael â’r hyn sydd wrth wraidd yr effaith anghymesur.
Bydd angen i ymateb effeithiol dderbyn y ffactorau achosol hyn yn ogystal ag adroddiadau o ragfarn bosibl wrth neilltuo swyddi risg uwch, lle mae staff gofal iechyd BME yn dweud bod gofyn iddyn nhw weithio ar wardiau COVID 19 yn fwy na’u cydweithwyr gwyn.
Mae’r adroddiadau hyn yn adlewyrchu’r rhagfarn oedd yn wynebu gweithwyr BME cyn COVID 19. Dangosodd gwaith ymchwil gan y TUC ar ddechrau 2020 fod 56% o fenywod BME a 48% o ddynion BME wedi dweud bod tasgau anoddach neu llai poblogaidd wedi’u neilltuo iddyn nhw yn hytrach na’u cymheiriaid gwyn. Mae ein hadroddiad ‘Ydy Hiliaeth yn Bodoli’ yn dangos nad yw staff BME yn teimlo’n hyderus i riportio hyn, gyda bron i hanner yn peidio â riportio digwyddiadau, er gwaetha’r ffaith eu bod wedi profi rhagfarn ar lefel uchel. Dywedodd ymatebwyr nad oedd pobl yn eu credu nhw ac mewn amryw o achosion roedden nhw’n cael eu targedu ar gyfer cael eu trin yn waeth os oedden nhw’n riportio rhagfarn roedden nhw wedi’i hwynebu. Roedd unigolion mewn swyddi ansicr yn wynebu mwy o rwystrau fyth wrth geisio riportio am eu bod yn ofni na fydden nhw’n cael cynnig gwaith pe bydden nhw’n cwyno.
Mae adroddiadau anecdotaidd diweddar gan staff iechyd a gofal cymdeithasol ar y rheng flaen yn adlewyrchu’r canfyddiadau hyn. Er bod staff BME yn rhoi gwybod am neilltuo Cyfarpar Diogelu Personol yn annheg yn ogystal â neilltuo tasgau risg uwch, maen nhw’n amharod i riportio hyn am nad ydyn nhw eisiau cael eu hystyried yn unigolion sy’n achosi trafferth neu wynebu erledigaeth. Yn sgil y rhwystrau mae unigolion wedi’u profi wrth riportio triniaeth ragfarnllyd, wedi’u dwysáu gan nifer sylweddol y staff BME ansicr sydd mewn swyddi ar y rheng flaen, dylai EHRC gasglu tystiolaeth ar frys gyda’r bwriad o ddefnyddio pwerau gorfodi neu bwerau ymchwilio.
Rydym am weld bod y mesurau hyn yn berthnasol i bob gweithiwr, gan gynnwys y rhai sy’n gweithio’n rhan-amser, y rhai sy’n gwneud gwaith asiantaeth neu waith ansicr a’r rhai sy’n gymwys fel gweithwyr hunangyflogedig.
Rhaid i’r camau hyn fod yn rhan o strategaeth ehangach i ddiogelu iechyd a diogelwch pobl yn y gweithle, gan gynnwys canllawiau cryfach gan y llywodraeth (wedi’u hategu gan reoliadau) ynghylch y mesurau diogelwch y mae’n rhaid i bob cyflogwr eu hystyried nawr a phwerau newydd (drwy rwydwaith tridarn, sy'n cynnwys cyflogwyr, undebau a'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch) i’r llywodraeth gymell cyflogwyr nad ydynt yn dilyn y camau hyn i gau.
Darganfyddwch mwy gyda’n canllaw coronafeirws i gynrychiolwyr.
Darllen ein hymateb i ymchwiliad ar y Coronafeirws a’r effaith ar bobl â nodweddion gwarchodedig.
Os ydych wedi profi neu weld hiliaeth yn y gweithle, llenwch ein harolwg
Ydych chi’n poeni nad ydych chi’n gallu aros yn ddiogel rhag y coronafeirws yn eich gweithle? Dywedwch wrthym am eich profiadau drwy ddefnyddio ein ffurflen datgelu.
Byddwn yn rhannu’r wybodaeth am eich pryderon iechyd a diogelwch yn ddienw â Llywodraeth Cymru a’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch. Os byddwch yn rhoi caniatâd i rannu eich manylion, byddwn hefyd yn adrodd y mater i’ch undeb llafur ar eich rhan.
Llenwch ein ffurflen pryderon am iechyd a diogelwch
Mae undebau’n helpu pobl i ddod ynghyd, yn atal pobl rhag cael eu trin yn annheg ac yn cael gwell bargen gan eu cyflogwyr.
Maen nhw yno yn ystod cyfnodau anodd – yn rhoi cyngor cyfreithiol am ddim os oes angen. Gall aelodau o undeb fanteisio ar lawer o gynigion a gostyngiadau hefyd. A phob blwyddyn, bydd undebau’n helpu dros 200,000 o bobl i gael gafael ar y cyfleoedd dysgu a hyfforddi sydd eu hangen arnyn nhw i symud ymlaen yn eu gyrfa.
Onid ydy hi’n amser i chi ymuno ag undeb?