Beth yw'r heriau sy'n wynebu trafnidiaeth gyhoeddus yng Nghaerdydd, Abertawe, Casnewydd a Wrecsam? Pam mae'r car wedi parhau i ddominyddu? Pam mae ein dinasoedd wedi cwympo y tu ôl i ddinasoedd tebyg yn y DU ac ar draws Ewrop? Sut mae ein rhwydweithiau trafnidiaeth bregus yn effeithio ar waith a chynhyrchiant?
Ymunwch â'n panel o arbenigwyr i drafod y materion hyn a chanfyddiadau ymchwil newydd ar y pynciau hyn gan Centre for Cities.
Rhowch wybod i ni os oes gennych unrhyw anghenion mynediad ychwanegol ar gyfer y digwyddiad.
Rydym am i bawb sy'n mynychu digwyddiadau TUC gael profiad diogel a phleserus. Os oes angen unrhyw addasiadau neu gymorth arnoch i gymryd rhan yn y digwyddiad hwn, rhowch wybod i ni.