Lansio Pecyn Cymorth Aflonyddu Rhywiol TUC Cymru a Cymorth i Ferched Cymru
This event has ended
Manylion y digwyddiad
Dyddiad
Wed, 22 Mar 2023 - 12:00 to 13:30
Cost
Am ddim
Trosolwg

Noddir gan Joyce Watson, AS (Llafur, Canolbarth a Gorllewin Cymru)

Sawl gwaith ydyn ni wedi clywed aflonyddu rhywiol yn y gweithle yn cael ei ddisgrifio fel ‘ychydig o hwyl’?

Efallai y dywedwyd wrthych y dylid ei gymryd fel jôc neu ganmoliaeth hyd yn oed?

Mae’r rheini sydd wedi cael eu haflonyddu’n rhywiol yn gwybod yn union cymaint mae’n tanseilio, yn bychanu ac yn codi ofn ar rywun.

Nid yw aflonyddu rhywiol yn drosedd lefel isel y dylid ei dderbyn fel rhan anochel o fywyd bob dydd. Mae’n rhan o ddiwylliant ehangach, di-baid o drais rhywiol a chasineb at fenywod.

Fel mater byd-eang, mae’n cael ei drin yn wahanol ar draws y byd a gallwn wneud i Gymru fod y lle mwyaf diogel i weithio, byw a chymdeithasu.

Mae TUC Cymru wedi gweithio’n agos gyda Cymorth i Ferched Cymru i ddatblygu pecyn cymorth a fydd yn rhoi’r wybodaeth sydd ei hangen ar gynrychiolwyr undebau i fynd i’r afael ag aflonyddu rhywiol yn y gweithle a’i atal rhag digwydd.

Dyddiad: Dydd Mercher 22 Mawrth 2023

Lleoliad: Adeilad y Pierhead, Bae Caerdydd

Amser: 12:00 - 13:30

Darperir cinio

“Mae cynrychiolwyr undeb yn allweddol i sicrhau bod gweithleoedd yn atebol a sicrhau bod penaethiaid yn gwneud popeth o fewn eu gallu i atal aflonyddu rhywiol” meddai Joyce Watson AS (Llafur, Canolbarth a Gorllewin Cymru), sy’n noddi’r digwyddiad hwn.

Dechreuodd Joyce ymgyrchu ynghylch diogelwch menywod a merched pan arweiniodd Llais Menywod Cymru cyn cael ei hethol i’r Senedd yn 2007. Mae hi wedi arwain ymgyrchoedd Rhuban Gwyn yng Nghymru ac wedi gweithio gyda Sefydliad y Merched yng Nghymru ar yr ymgyrch Not In my Name ers dros 10 mlynedd, gan recriwtio llysgenhadon gwrywaidd i godi llais. Mae hi wedi comisiynu ymchwil i’r clytwaith o wasanaethau i bobl ifanc y mae trais yn y cartref yn effeithio arnynt ledled Cymru. 
Mae Joyce yn un o Gomisiynwyr Cydraddoldeb y Senedd ac yn undebwr llafur hirdymor.

Hefyd, bydd y canlynol yn bresennol yn y digwyddiad hwn:

Sara Kirkpatrick, Prif Weithredwr, Cymorth i Ferched Cymru

Jane Hutt AS, y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol

Shavanah Taj, Ysgrifennydd Cyffredinol TUC Cymru.

Arddangosfa gan artistiaid gwadd sydd wedi creu darnau penodol ar thema aflonyddu rhywiol

Yn 2021, lansiodd Cymorth i Ferched Cymru ymgyrch #NoGreyArea i herio cyffredinrwydd aflonyddu rhywiol yn y gweithle. Casglodd yr ymgyrch brofiadau a sgyrsiau gyda channoedd o fenywod ledled Cymru. 

Yr hyn a oedd yn amlwg o’r broses hon oedd bod y mwyafrif helaeth o fenywod yng Nghymru wedi profi rhyw fath o aflonyddu rhywiol yn y gwaith. I lawer, roedd hyn yn cael ei waethygu gan gam-drin, aflonyddu a thrais yr oeddent wedi’i brofi mewn mannau eraill yn eu bywydau. Soniodd llawer o fenywod am yr anobaith a’r rhwystredigaeth roedden nhw’n ei deimlo; pe byddent yn herio’r person a oedd yn aflonyddu arnynt, gallai hynny wneud pethau’n fwy peryglus iddyn nhw, neu fygwth eu sefyllfa yn y gweithle.

Mae’r ymgyrch ‘NoGreyArea’ yn gweithredu fel llwyfan sy’n rhoi mwy o sylw i straeon y mae menywod ledled Cymru wedi’u rhannu. Roedd y profiadau hyn yn sail i fideo ymgyrch ‘NoGreyArea’, yn ogystal â’r newidiadau i ddiwylliannau yn y gweithle y mae Cymorth i Ferched Cymru yn parhau i ymgyrchu drostynt.

I dynnu sylw at y straeon a’r profiadau sy’n aml yn teimlo fel trais ac aflonyddu rhywiol di-baid, bu Cymorth i Ferched Cymru yn cydweithio â Pwsh, cwmni celfyddydol o Gaerdydd, i gomisiynu dau artist lleol i greu celf gweledol o leisiau cyfun menywod ledled Cymru.

Mae Ophelia Dos Santos, ymgyrchydd a dylunydd tecstilau cynaliadwy, ac Elena Gherghe, darlunydd gyda chefndir mewn celf dros gyfiawnder cymdeithasol, wedi creu tri darn o gelfyddyd sy’n cyfleu effaith aflonyddu a cham-drin ar fenywod.