Ydych chi’n poeni am ddiogelu a gwella swyddi eich aelodau wrth i fyd gwaith ddod yn fwy gwyrdd? Ymunwch â ni yn y digwyddiad AR-LEIN hwn, dyma’r digwyddiad i chi!
Cyfle i glywed am y dystiolaeth ryngwladol ddiweddaraf am y canlynol a’i thrafod:
Siaradwyr:
Mae’r digwyddiad hwn yn gyfle i drafod y materion hyn gyda chyd-gynrychiolwyr undebau. Bydd y cyfarfod o fudd arbennig i: swyddogion cangen, cynrychiolwyr gwyrdd, cynrychiolwyr dysgu undebau, undebwyr llafur sy’n gyfrifol am gydgytundebau; a phawb sydd â diddordeb yn nyfodol gwaith a dyfodol y blaned.
Ar gyfer pwy mae’r digwyddiad hwn?
Bydd y digwyddiad hwn o ddiddordeb arbennig i gynrychiolwyr gwyrdd/amgylcheddol a chynrychiolwyr iechyd a diogelwch. Ond bydd hefyd yn berthnasol i swyddogion amser llawn, swyddogion cangen, stiwardiaid llawr gwaith a chynrychiolwyr eraill. Mae croeso i bob swyddog a chynrychiolydd undeb llafur. Rhannwch yn eang â chydweithwyr undebau llafur.
Gwybodaeth am y Rhwydwaith Gweithleoedd Gwyrddach
Mae’r digwyddiad hwn yn cael ei gynnal fel rhan o Rwydwaith Gweithleoedd Gwyrddach TUC Cymru. Mae hwn yn rhwydwaith newydd sydd wedi’i sefydlu i gefnogi cynrychiolwyr undebau llafur sydd am hybu gweithleoedd gwyrddach a chynaliadwyedd. Ymunwch â ni ar gyfer y rhwydwaith cyfeillgar a chefnogol hwn sy’n agored i bob cynrychiolydd a gweithredwr, gan gynnwys cynrychiolwyr gwyrdd, cynrychiolwyr iechyd a diogelwch, cynrychiolwyr undebau, cynrychiolwyr dysgu undebau ac unrhyw gynrychiolwyr eraill sydd â diddordeb yn y pwnc.
Os ydych chi’n poeni am ddiogelu eich gwaith at ddyfodol gwyrddach a thecach, dylech fanteisio ar y rhwydwaith hwn.
Bydd y grŵp yn cwrdd ar-lein oddeutu bob yn ail fis. Bydd pob cyfarfod yn cynnwys siaradwyr gwadd i archwilio gwahanol bynciau, yn rhoi cyfle i gynrychiolwyr rwydweithio a rhannu arferion da, ac yn cynnwys diweddariad gan TUC Cymru.
Ymunwch â ni ar gyfer y digwyddiad hwn ac os oes gennych chi unrhyw syniadau am bynciau neu siaradwyr mewn cyfarfodydd yn y dyfodol, anfonwch e-bost at swaihongho@tuc.org.uk Stanley Ho o TUC Cymru gyda’ch awgrymiadau.
Os hoffech gael rhagor o syniadau a gwybodaeth am yr hyn mae undebau’n ei wneud i greu gweithleoedd gwyrddach, lawrlwythwch ein pecyn cymorth newydd - Gweithleoedd Gwyrddach ar gyfer Trawsnewid Cyfiawn. Beth am fwrw golwg ar dudalen ein hymgyrch hefyd, lle mae fideos yr ymgyrch a rhagor o wybodaeth ar gael.
Cod ymddygiad
Mae’r TUC wedi ymrwymo i drefnu gweithgareddau y gall pawb gymryd rhan ynddyn nhw mewn amgylchedd cynhwysol, parchus a diogel. Dydy'r TUC ddim yn goddef unrhyw fath o aflonyddu, gan gynnwys aflonyddu rhywiol. Ni fydd ymddygiad neu sylwadau ymosodol, bygythiol, amharchus neu annerbyniol yn cael eu goddef. Mae hyn yn cynnal yr ymrwymiad a nodir yn rheolau’r TUC i hyrwyddo cydraddoldeb i bawb ac i gael gwared ar bob math o aflonyddu, gan gynnwys aflonyddu rhywiol, rhagfarn a gwahaniaethu annheg. Mae’r polisi hwn yn berthnasol i bob agwedd ar gyfathrebu mewn digwyddiad neu mewn cysylltiad ag ef, gan gynnwys postiadau ar gyfryngau cymdeithasol. Os oes gennych chi unrhyw bryderon ynglŷn ag ymddygiad rydych chi eisiau ei godi yna cysylltwch â ni ar e-bost: wtuc@tuc.org.uk
Bydd capsiynau caeedig yn cael eu darparu yn y digwyddiad ar-lein hwn.
Os oes gennych chi unrhyw anghenion hygyrchedd eraill y dylen ni fod yn gwybod amdanynt, cysylltwch â ni yn swaihongho@tuc.org.uk neu rhowch wybod i ni ar eich ffurflen gofrestru.