Rydym yn croesawu cyhoeddiad y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) ei fod yn lansio ymchwiliad i effaith coronafeirws ar leiafrifoedd ethnig. Mae TUC Cymru wedi bod yn llafar am effaith y coronafeirws ar weithwyr a chymunedau du a lleiafrifoedd ethnig (BME) ers dechrau'r argyfwng hwn.
Rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda EHRC Cymru i godi’r materion o hiliaeth systemig a strwythurol a welwn yng Nghymru heddiw.
Mae'n bwysig nad yw'r ymchwiliad hwn yn canolbwyntio ar effaith coronafeirws ar weithwyr BME yn unig. Mae angen iddi hefyd edrych ar yr anghydraddoldebau economaidd-gymdeithasol ehangach a hiliaeth strwythurol. Mae hyn yn cynnwys ystyried:
Darllenwch ein Canllaw Covid-19 ar gyfer gweithwyr BME yng Nghymru sy'n ymhelaethu ar y problemau y mae gweithwyr BME yn eu hwynebu heddiw.