Dyddiad cyhoeddi
Mae’r TUC yn galw ar y llywodraeth i ymdrin â’r coronafeirws drwy warantu tâl salwch i bob gweithiwr, beth bynnag y mae’n ei ennill. Nid yw bron i 2 filiwn o weithwyr yn y DU yn gymwys i dderbyn Tâl Salwch Statudol, gan gynnwys traean o weithwyr sydd ar gontract dim oriau.

Ar hyn o bryd, nid yw 90,000 o weithwyr yng Nghymru yn ennill digon i fod yn gymwys i dderbyn Tâl Salwch Statudol (TSS), yn ôl dadansoddiad newydd gan y TUC a ryddhawyd heddiw (dydd Gwener).

Mae’r TUC yn galw ar y llywodraeth i ymateb i achosion COVID-19 drwy ddarparu cymorth argyfwng i weithwyr nad ydyn nhw’n gymwys ar hyn o bryd i dderbyn Tâl Salwch Statudol.

Mewn llythyr i weinidogion a anfonwyd yn gynharach yr wythnos hon, rhybuddiodd Frances O’Grady, Ysgrifennydd Cyffredinol y TUC y gallai darpariaeth annigonol o dâl salwch atal pobl rhag gweithredu ar gyngor iechyd cyhoeddus, oherwydd y bydd llawer o weithwyr yn brwydro i gwrdd â chostau byw sylfaenol os na allan nhw fynd i’r gwaith am gyfnod estynedig.

O ganlyniad, gall rhai deimlo nad oes ganddyn nhw unrhyw ddewis ond mynd i’r gwaith tra maen nhw’n sâl, neu yn erbyn cyngor gan Lywodraeth y DU.

Drwy’r DU, nid yw bron i 2 filiwn o gweithwyr sydd â’r cyflogau isaf yn ennill digon i fod yn gymwys i dderbyn tâl salwch statudol.  Yn ôl dadansoddiad y TUC, mae hyn yn cynnwys:

  • 34% o weithwyr sydd ar gontractau dim oriau
  • 1 mewn 10 o ferched mewn gwaith
  • Mwy nag un mewn pump (22%) o weithwyr rhwng 16 a 24 oed
  • Mwy na chwarter (26%) o weithwyr sy’n 65 oed a hŷn, a nodwyd gan y llywodraeth fel un o’r grwpiau mwyaf bregus i ddal y feirws.

Er mwyn ymdrin â’r broblem hon, mae’r TUC yn galw ar y llywodraeth i gyflwyno pecyn cefnogaeth mewn argyfwng ar gyfer gweithwyr sy’n cael eu heffeithio gan y feirws, gan gynnwys:

  • Deddfwriaeth frys er mwyn sicrhau bod pob gweithiwr yn derbyn Tâl Salwch Statudol, beth bynnag y mae’n ei ennill.
  • Cynyddu’r tâl salwch fel ei fod yn gyfartal â’r Cyflog Byw Cenedlaethol.
  • Gofyniad bod y rhai hynny a ofynnwyd gan eu cyflogwr i ymneilltuo ar sail iechyd cyhoeddus i barhau ar gyflog llawn.
  • Cronfa argyfwng i gynorthwyo cyflogwyr gyda’r gost a chynnwys gweithwyr nad ydyn nhw ar hyn o bryd yn gymwys i dderbyn Tâl Salwch Statudol.

Mewn ymateb i ymgyrchu gan yr undebau, mae’r Llywodraeth eisoes wedi addo darparu Tâl Salwch Statudol o’r diwrnod cyntaf o salwch i’r rhai hynny sy’n cael eu heffeithio gan goronafeirws.  Tra bod hwn yn gam pwysig ymlaen i weithwyr, mae’r TUC wedi rhybuddio nad yw’n ddigon i ddatrys y broblem, gan nad yw cymaint o weithwyr yn gymwys i dderbyn Tâl Salwch Statudol o gwbl, ac oherwydd mai £94.95 yr wythnos yn unig yw’r gyfradd.

Dywedodd Shavanah Taj, Ysgrifennydd Cyffredinol y TUC:

“Rydym i gyd eisiau i bobl ddilyn cyngor iechyd llywodraeth y DU.  Ni ddylai unrhyw un fod ar ei golled am wneud y peth iawn.

“Ond fel mae’r sefyllfa ar y funud, ni fydd 90,000 o bobl sy’n gweithio yng Nghymru, llawer ohonyn nhw sydd eisoes yn brwydro ac wedi cael eu heffeithio yn ofnadwy gan y tywydd gwael diweddar a’r newid yn yr hinsawdd, yn gallu cwrdd â chostau byw sylfaenol os ydyn nhw’n aros adref o’r gwaith.

“Mae hyn yn ddewis amhosibl, sydd â goblygiadau difrifol inni i gyd.  Yr ateb tecaf a symlaf yw diwygio’r ddeddfwriaeth tâl salwch yn syth, fel ei bod yn cynnwys pob gweithiwr ar raddfa ddigonol.

“Hon yw’r ffordd fwyaf synhwyrol i roi’r sicrwydd y maen nhw ei angen i deuluoedd sy’n gweithio – ac er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd.”

Arwyddwch ein deiseb i sicrhau tâl salwch da ar gyfer pob gweithiwr o'u diwrnod cyntaf yn y swydd.