Mae ffigurau newydd a rannwyd gan TUC wedi datgelu bod nifer y bobl ar gontractau dim oriau yng Nghymru wedi cynyddu fwy na thraean mewn 12 mis.
Mae ffigurau gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn dangos bod 50,000 o bobl yng Nghymru ar gontract dim oriau. Mae hyn wedi cynyddu o 37,000 yn 2018, sy’n 3.4% o'r holl bobl mewn cyflogaeth yng Nghymru – y gyfradd uchaf ar gofnod.
Dywedodd Julie Cook, Swyddog Cenedlaethol TUC:
“Mae pawb yn haeddu sicrwydd ynglŷn â'r oriau maen nhw’n eu gweithio bob wythnos, felly mae’n annerbyniol bod nifer y contractau dim oriau yng Nghymru wedi cynyddu fwy na thraean mewn cwta flwyddyn.
“Mae’r rhan fwyaf o bobl ar gontractau dim oriau eisiau rhoi diwedd arnynt. Yr unig hyblygrwydd maen nhw’n ei gynnig yw hyblygrwydd i gyflogwyr.
“Mae angen i Lywodraeth y DU gael gwared â’r contractau annheg yma. Mae angen swyddi cadarn ar weithwyr yng Nghymru, gyda sicrwydd o oriau.”
Mae TUC Cymru yn galw ar lywodraeth nesaf y DU i wneud y canlynol: