Nod y pecyn cymorth hwn yw rhoi gwybodaeth i helpu swyddogion a chynrychiolwyr undeb yng Nghymru i wella cydraddoldeb i bobl anabl yn y gweithle a chynrychioli aelodau anabl, gan gynnwys y rheini ag amhariadau anweledig neu ‘gudd’.

Anela at helpu cynrychiolwyr i fynd i’r afael â materion a rhwystrau yn y gweithle a all greu problemau i weithwyr anabl.

Mae’n cynnig offer a syniadau i helpu cynrychiolwyr undeb i fynd i’r afael â gwahaniaethu ynghyd ag enghreifftiau o arfer da. Mae’r pecyn cymorth hwn hefyd yn adnodd ar gyfercwrs Anabledd ac Amhariadau ‘Cudd’ yn y Gweithle gan TUC Cymru.

Mae’r pecyn cymorth a’r cwrs wedi’i ddatblygu gan TUC Cymru mewn ymateb i arolwg a gynhaliwyd gennym ni a ganfu bod llawer o weithwyr anabl eisiau gweld newid yn y ffordd y mae anabledd yn cael ei drin yn y gwaith.

Mae Cyngres yr Undebau Llafur (TUC Cymru) yn bodoli i sicrhau bod y byd gwaith yn lle gwell i bawb. Rydym eisiau i Gymru ddod yn genedl gwaith teg.

Gyda 49 o undebau yn aelod a dros 400,000 o aelodau yng Nghymru, mae gan TUC Cymru rôl allweddol i’w chwarae wrth godi materion sy’n effeithio ar bobl anabl yn y gweithle.

Rydym yn cefnogi undebau i dyfu a ffynnu, ac rydym yn sefyll dros bawb sy’n gweithio i fyw. Ymunwch â ni.

Cwrs Anableddau ‘Cudd’ yn y Gweithle

Mae’r cwrs deuddydd hwn wedi’i gynllunio i gynrychiolwyr undebau llafur ac yn anelu at greu ymwybyddiaeth gynyddol o faterion cydraddoldeb i bobl anabl yn y gweithle (gan gynnwys materion y mae gweithwyr gydag amhariadau ‘cudd’ yn eu hwynebu).

Mae’r cwrs i holl gynrychiolwyr undeb ac yn anelu at: 

  • Godi ymwybyddiaeth o’r rhagfarn a’r stigma y gall gweithwyr anabl eu hwynebu 
  • Helpu cynrychiolwyr i adnabod rhwystrau yn y gweithle sy’n effeithio’n negyddol ar weithwyr anabl ac yn deall pwysigrwydd model cymdeithasol o anabledd 
  • Ystyried polisïau, diwylliannau ac arferion gweithle a all wahaniaethu yn erbyn gweithwyr anabl 
  • Ystyried arfer gorau o ran polisïau, arferion ac addasiadau rhesymol y gweithle 
  • Cefnogi aelodau i ddatgelu eu hamhariadau (i gael mynediad at addasiadau rhesymol)
  • Gweithio gydag aelodau anabl i fynd i’r afael â gwahaniaethu ac ymgyrchu am gydraddoldeb gwell i bobl anabl yn y gweithle

Cysylltwch ag wtuceducation@tuc.org.uk am wybodaeth am gyrsiau sy’n cael eu cynnal yn eich ardal chi.

Mae eNote (briffio ar-lein i gynrychiolwyr) ar anableddau ‘cudd’ ar gael yn www.tuceducation.org. uk